#

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-782

Teitl y ddeiseb: Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48

Testun y Ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymdrin yn ymarferol â'r broblem tagfeydd ar yr A48 drwy Gas-gwent unwaith ac am byth.

Mae lleihau'r doll ar Bont Hafren yn cynnig cyfle anferthol am dwf yn Sir Fynwy, Fforest y Ddena a de-orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae seilwaith y ffordd yn annigonol. Mae'r A48 eisoes yn dioddef tagfeydd ac ansawdd aer gwael drwy dref Cas-gwent. Gyda'r ystadau tai newydd yn Sir Fynwy a Fforest y Ddena, mae'r cynigion presennol yn methu, mewn modd annerbyniol, i hwyluso twf.

Mae'r cynllun hwn wedi bod yn ddyhead ers y 1960au ac oni bai y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r diwedd yn cydweithredu ac yn ymrwymo, yna bydd y ffyniant economaidd sydd o fewn cyrraedd yn cael ei atal, gan adael, yn lle hynny, i ansawdd bywydau preswylwyr ddirywio a llesteirio datblygiad economaidd cynaliadwy.

Gwybodaeth ychwanegol:

Enghraifft dda o sut mae'r mater hwn wedi cael ei esgeuluso gan bob cangen o lywodraeth yw bod chwaer ddeiseb wedi'i chyflwyno i Lywodraeth y DU gan ei bod wedi gwrthod y gwreiddiol gan ddweud ei fod yn fater i Gymru yn unig.

Rydym yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau nad yw'r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn yn dod yn syrthio i'r fagl o gael ei basio i ochr arall y ffin

Cefndir

Llywodraeth Cymru, fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, sy'n gyfrifol am yr A48 drwy Gas-gwent. Mae'n disgrifio'r A48 fel ffordd strategol yn ne Cymru sy'n cysylltu de-orllewin Cymru â Lloegr. Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) sy'n gyfrifol am reoli, cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd yn ne Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Datblygiad lleol a chynllunio trafnidiaeth lleol

Mae Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig Cyngor Sir Fynwy yn rhestru llwybr cynllun Ffordd Osgoi Allanol Cas-gwent posibl i'w diogelu rhag datblygiadau a fyddai'n debygol o beryglu eu gweithredu (Polisi MV10). Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn rhestru gwaith adeiladu Rhiw Hardwick a Ffordd Osgoi Cas-gwent newydd fel dyhead hirdymor o arwyddocâd lleol sy'n rhan o'r cynllun gwella traffig, amgylcheddol a diogelwch ffyrdd ehangach Cas-gwent.

Ansawdd aer

Mae Rhiw Hardwick ar yr A48 yng Nghas-gwent wedi'i ddynodi yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) oherwydd allyriadau uchel o draffig, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm sy'n teithio i fyny'r bryn. Mae Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Cas-gwent 2011 Cyngor Sir Fynwy yn nodi:

The possibility of a bypass for Chepstow has been investigated a number of times over the years. […]

This option had by far the greatest support at the stakeholder workshops, but there was also a reasonable amount of opposition. A bypass would significantly improve air quality within the AQMA and would also improve safety and living conditions for those living on Hardwick Hill. However, there would be negative impacts for people living alongside the bypass route. As the exceedance area only affects a small number of properties on Hardwick Hill, the costs of a bypass would almost certainly outweigh the benefits. In addition there could be a negative impact on the economy of the town if through traffic is reduced.

Mae Adroddiad Cynnydd rheoli ansawdd aer lleol 2016 Cyngor Sir Fynwy (PDF 3.16MB) yn nodi:

[…] air quality within the Chepstow Air Quality Management Area (AQMA) continues to exceed the nitrogen dioxide annual mean objective level at certain locations [including Hardwick Hill].

The Toll at the Severn Bridge has been identified as a contributing factor to air quality exceedances on the A48, Hardwick Hill, as a number of HGV’s use the route to avoid paying the toll into Wales. It was agreed at the meeting that petitioning to remove the Toll in 2017 was a priority.

Tollau Croesfannau Hafren a safbwynt Llywodraeth y DU

Bu Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar gynigion i leihau Tollau Croesfannau Hafren ym mis Ionawr 2017. Yn dilyn hynny, ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd y bydd y tollau yn cael eu diddymu i bob cerbyd erbyn diwedd 2018.

Gwrthododd Llywodraeth y DU ddeiseb debyg yn galw am ffordd osgoi Cas-gwent a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2017 ar y sail:

It’s about something that the UK Government or Parliament is not responsible for.

Your petition is about something that the Welsh Government is responsible for. That means that the UK Government and Parliament can't look into it. Responsibility for roads is devolved in Wales.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Nid oes unrhyw gynlluniau ffordd osgoi yng Nghas-gwent wedi'u rhestru yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 Llywodraeth Cymru na llif o brosiectau arfaethedig y Cynllun Buddsoddi Seilwaith.

Yn 2013/14, cynhaliodd SWTRA ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn am farn ar sut i wella ansawdd aer yng Nghas-gwent drwy wneud newidiadau i'r A48 ar ran Llywodraeth Cymru. Yn ôl yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad (PDF 3.24MB), roedd 13 o'r 21 a ymatebodd yn awgrymu ffordd osgoi newydd fel ateb.

Yn ei lythyr at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

[…] we have conducted a consultation exercise and study into Air Quality Assessment in Chepstow. The outcome of the consultation was that there were five potential options, one of which was a bypass. However, the full impact of the tolls being lifted along with new housing developments in the area, are yet to be fully realised.

Er nad oes unrhyw gynlluniau ffurfiol ar gyfer ffordd osgoi Cas-gwent wedi'u datblygu hyd yma, ystyriwyd y byddai cynllun o'r fath yn debygol o fod ar ddwy ochr ffin Cymru a Lloegr i'r de o Gas-gwent a Sedbury. Byddai angen cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod priffyrdd perthnasol yn Lloegr. Yn ei lythyr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Highways England i ddatblygu dull cydlynol ar draws y ffin i gynllunio i gael gwared ar y tollau, a fydd yn cynnwys yr effaith debygol ar y model traffig ar gyfer Cas-gwent, gan gynnwys yr A48.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig (WAQ27340) gan Michael German ar ba ystyriaethau sydd wedi'u rhoi i ffordd osgoi Cas-gwent ym mis Gorffennaf 2003, dywedodd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ar y pryd, Andrew Davies (PDF 281KB):

 Nid oes gan y Cynulliad unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i fwrw ymlaen â ffordd osgoi i Gas-gwent fel rhan o’i rhaglen gefnffyrdd.  Yr oedd y Swyddfa Gymreig, fodd bynnag, wedi nodi ei chefnogaeth i brosiect menter breifat i godi ffordd osgoi allanol i Gas-gwent, ac wedi cynnig gwneud cyfraniad ariannol. Gan gydnabod hyn, sicrhaodd y Swyddfa Gymreig, ynghyd â hen Gyngor Sir Gwent, ran o lwybr y ffordd osgoi arfaethedig drwy gyfrwng cytundebau gyda datblygwr, sydd wedi adeiladu ffordd ar linell y ffordd osgoi arfaethedig yn y pen de-orllewinol. Yr oedd y Swyddfa Gymreig hefyd o’r farn y byddai ffordd osgoi fewnol i Gas-gwent yn mynd i’r afael â’r materion diogelwch ar Riw Hardwick. Fodd bynnag, yn sgîl sylwadau oddi wrth y cyhoedd ac eraill, cafodd y cynigion hyn eu tynnu’n ôl. Mae is-raddio’r A48 drwy Gas-gwent yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac, os bwrir ymlaen â hynny, byddai’n caniatáu i’r awdurdod lleol dawelu’r traffig ar gefnffordd yr A48.

Mewn ymateb i gwestiwn (WAQ51322) gan Mike German ar ffordd osgoi Cas-gwent a chynlluniau ar gyfer tynnu statws cefnffordd yr A48 ym mis Chwefror 2008, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd, Ieuan Wyn Jones (PDF 26.2KB):

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Cas-gwent yn enwedig ers i’r Asiantaeth Priffyrdd dynnu statws yr A48 ar draws y ffin yn ddiweddar a’i throsglwyddo’n ôl o dan reolaeth yr awdurdod lleol, gan ei dileu o’r rhwydwaith priffyrdd strategol.  

Mae ein barn yn debyg i farn yr Asiantaeth Priffyrdd ar bwysigrwydd strategol yr A48 / A466 yng Nghasgwent.  Ein polisi yw tynnu statws y ffyrdd gan eu dileu o’r rhwydwaith priffyrdd strategol yng Nghymru a galluogi Cyngor Sir Fynwy i reoli’r ffyrdd fel y gwelant orau. Os bydd hyn yn mynd rhagddo bydd yn rhaid i Gyngor Sir Fynwy gytuno ar y newid statws a’r ffaith mai’r Cyngor fydd yr awdurdod priffyrdd cyfrifol. 

Yn dilyn cwestiwn brys yn y Cyfarfod Llawn ynghylch ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar barhau i godi tollau ar y Bont Hafren ym mis Ionawr 2017, dywedodd Nick Ramsay:

[…mae] ffyrdd o amgylch ardal Croesfannau Hafren, megis yng Nghas-gwent, yn fy etholaeth i, er enghraifft, sydd mewn gwirionedd yn cludo llawer o draffig—llawer mwy nag y dylen nhw—gan fod pobl ar hyn o bryd yn osgoi'r system doll.   Felly, a ydych chi wneud cynnal unrhyw asesiad, neu a ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw asesiad, o effaith gostwng y tollau—i’r hyn yr ydych chi’n ei gynnig nawr, ond, gobeithio, yn y dyfodol, mwy fyth—ac effaith symiau is o draffig ar y ffyrdd cyfagos mewn ardaloedd megis Cas-gwent […].

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Roeddwn i’n falch o weld arweinydd cyngor Sir Fynwy yn cydnabod yr heriau, ond hefyd y cyfleoedd y byddai cael gwared ar y tollau ar y Croesfannau Hafren—neu ostwng y tollau o leiaf—yn ei gyflwyno i’r rhanbarth cyfan, nid dim ond yr ardal y mae’n ei gynrychioli.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.